P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Flexible Admissions Wales Group, ar ôl casglu 241 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i ystyried diwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion lle y mae'n
ymwneud â derbyn plant y tu allan i'r grŵp oedran
arferol, mewn perthynas â phlant a anwyd yn ystod yr haf (1
Ebrill – 31 Awst).
Oherwydd amseriad cyfnodau dechrau mewn ysgolion, mae plant a anwyd
yn ystod yr haf o dan anfantais sylweddol o gymharu â'u
cyfoedion. Efallai y byddant yn dioddef effeithiau emosiynol ac
addysgol niweidiol wrth iddynt ddechrau eu haddysg ffurfiol lawer
yn iau. Gyda hynny mewn golwg, efallai y bydd rhieni yn dewis
gohirio pryd y bydd plant a anwyd yn ystod yr haf yn dechrau yn yr
ysgol hyd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol gorfodol, yn unol
â'u hawliau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf yn
canfod bod eu plant wedyn yn cael eu rhoi mewn dosbarth ym Mlwyddyn
1 yn syth, gan golli'r flwyddyn Derbyn hanfodol, sef y flwyddyn
bwysicaf mewn addysg yn ôl gwaith ymchwil.
Mae'n well gan y rhan fwyaf o rieni i'w plant fynd i'r flwyddyn
Derbyn pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol yn hytrach na
Blwyddyn 1. O dan y Cod Derbyn i Ysgolion, mae hyn yn bosibl mewn
theori. Mewn egwyddor, mae'r Cod yn rhoi'r gallu i rieni ofyn i'w
plant a anwyd yn ystod yr haf gael eu haddysgu y tu allan i'w
grŵp oedran arferol. Yn ymarferol, mae geiriad y Cod wedi
achosi llawer o broblemau: mae astudiaethau achos wedi dangos nad
yw Awdurdodau Addysg Lleol yn gweithredu'r ddarpariaeth yn gyson ac
mai prin y caiff ceisiadau eu derbyn.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y diwygiadau a ganlyn:
(1) Fel yr opsiwn cyntaf, dylid cymeradwyo ceisiadau i ohirio
dyddiad dechrau plant sydd â phen-blwyddi yn ystod misoedd yr
haf yn awtomatig (fel sy'n digwydd yn yr Alban);
(2) Fel arall, dylid diwygio geiriad y ddarpariaeth bresennol i
gryfhau hawliau rhieni i ddewis pryd y bydd eu plant yn dechrau
mewn dosbarth Derbyn, gan bwysleisio hefyd y dylai Awdurdodau
Addysg Lleol ystyried ceisiadau yn llawn a rhoi arweiniad
Llywodraethol i'r perwyl hwn;
(3) Yn y naill achos neu'r llall, dylid sicrhau bod plant sy'n cael
eu haddysgu y tu allan i'w grŵp oedran yn aros gyda'u
grŵp newydd drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan
yr Adran Addysg oedd dangos nad yw gohirio pryd y bydd plentyn yn
dechrau yn yr ysgol gynradd yn cael fawr ddim effaith ar ei
gyrhaeddiad. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ofalus wrth drafod yr
astudiaeth hon. Roedd yr astudiaeth yn gyfyngedig iawn, gan fesur
cyrhaeddiad academaidd YN UNIG, a hynny gan eithrio pob plentyn ag
anghenion arbennig neu anghenion ychwanegol. Mae'n annhebygol iawn
mai cyrhaeddiad academaidd fydd y prif reswm y mae rhieni'n dewis
gohirio mynediad eu plentyn at addysg gynradd.
Nid gallu academaidd plentyn yw'r ystyriaeth bennaf wrth benderfynu
ynghylch ei barodrwydd ar gyfer yr ysgol, ond ei aeddfedrwydd
emosiynol a chymdeithasol. Y sgiliau hyn a fydd yn helpu plentyn i
wneud ffrindiau, i ddelio â'i emosiynau, i ddilyn
cyfarwyddiadau ac i ganolbwyntio a meithrin iechyd meddwl da. Ni
ellir mesur a oes gan blentyn y sgiliau hyn drwy brawf
ffoneg.
Ni fydd cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn diwallu anghenion
pob plentyn yng Nghymru; ni all wneud hynny. Ni ddylai hynny fod yn
rheswm dros wrthod ceisiadau o'r fath. Mae angen polisi derbyn mwy
hyblyg er mwyn ystyried anghenion unigol plant a'r hyn sydd o fudd
iddynt. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn
pwysleisio y bydd addysg plentyn yn cael ei chyfeirio at ddatblygu
personoliaeth, doniau a galluoedd corfforol y plentyn cymaint
â phosibl (Erthygl 29(1)(a)). Drwy roi plant a anwyd yn ystod
yr haf o dan anfantais, nid yw'r Cod Derbyn i Ysgolion presennol yn
cyflawni hynny.
Mae gwledydd datganoledig eraill yn y DU eisoes wedi achub y blaen
ar Gymru yn hyn o beth. Mae Nick Gibb, y Gweinidog Gwladol dros
Safonau Ysgolion, wedi ymrwymo i ddiwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion i
adlewyrchu hawl rhieni i ddewis. Yn yr Alban, caiff ceisiadau gan
rieni i blant o oedran cyfatebol ohirio dechrau yn yr ysgol eu
derbyn yn awtomatig, ac ni fydd y plant yn colli unrhyw flynyddoedd
o addysg ysgol wrth wneud hynny.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Clwyd
· Gogledd Cymru